MeganWILLSONWILLSON - Dymuna Alwena, Elwyn, Bleddyn, Nia a'r teulu ddiolch yn gynnes am gydymdeimlad cysurlawn mewn cerdyn, galwad ff on ac ymweliad wedi iddynt golli MEGAN WILLSON (gynt o Droed yr Allt, Pwllheli) - chwaer annwyl a modryb arbennig. Diolch arbennig i'r Parch. Bryn Williams, ei weinidog a'i nai, am y gwasanaeth didwyll yng Nghapel Salem a wedyn yn Amlosgfa Bae Colwyn. Gwerthfawrogir hefyd, yn fawr, gyfraniad ei chyn-weinidog y Parch. Meirion Lloyd Davies a chymorth y Parchedigion Iwan Llewelyn Jones a R. E. Hughes ynghyd a gwasanaeth clodwiw Mrs. Morfydd Roberts, wrth yr organ. Bu'r cyfan yn gynhaliaeth amhrisiadwy. Diolch hefyd am gyfraniadau caredig er cof am Meg a rennir rhwng Tenovus ac Ysbyty Alder Hey, Lerpwl. Am drefniadau urddasol a thrylwyr diolch i G. D. Roberts a'i Fab, yr Ala, Pwllheli.
Keep me informed of updates