Dr Meirion LlewelynWILLIAMS2 Mai 2024. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yng Nghartref Haulfre, Llangoed o Cartref, 5 Cae Braenar, Caergybi yn 80 mlwydd oed.
Annwyl briod Jean, tad hoff Delyth Ann, Huw Arwel, Meirion Wyn ar ddiweddar Sian Eirian, taid a hen daid hoffus a mab y diweddar Parchedig Huw Llewelyn a Gaenor Williams. Gwelir ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Mawrth, 28 Mai 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Tabor M.C, Fali am 10.45 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch.
Blodau teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Cartref Haulfre, Llangoed a Grwp Dementia Caergybi trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates