John PierceWILLIAMS16 Mai, 2023. Hunodd yng nghwmni ei deulu yn 72 Cae Gwyn, Caernarfon yn 69 mlwydd oed. Priod ac angor Delyth, tad gofalus Siôn, Ffion a Glain, ffrind Edwin a Sue a thaid balch Iwan, Efa a Nel. Mab Ann a'r diweddar Eifion, brawd Huw a'r diweddar Ses, a chyfaill cywir i nifer. Angladd brynhawn Mawrth, 6 Mehefin, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau gan y teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ymchwil Cancr y Coluddyn a Meddygfa Waunfawr trwy law i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates