AnwenWILLIAMSBryn Gwyrfai Rhosgadfan Yn dilyn marwolaeth Anwen yn 55 mlwydd oed yn frawychus o sydyn ar 29ain o Fehefin tra ar ei gwyliau. Dymuna ei phriod Ken, Ffion ac Awel y genod a'r teulu ddiolch o waelod calon am yr holl garedigrwydd a chydymdeimlad a chefnogaeth ar gyfnod mor drist. Diolch am yr holl ymweliadau, cardiau, galwadau ffôn a rhoddion hael tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch o galon i'r Dr Huw Tegid Roberts am wasanaethu mor ddiffuant a theimladwy yn ei hangladd ym Mynwent Rhosgadfan, bro ei mebyd ac i Meinir, cwmni ymgymerwyr Dylan Griffiths, Tros y Waen, Penisarwaun am y trefniadau teimladwy a thrylwyr. Diolch hefyd i Bopty Lleuar am baratoi lluniaeth ar yr aelwyd.
Keep me informed of updates