EirianWILLIAMSDymuna Helen, Mari, Gwen, Bethan a'u teuluoedd ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad â hwy yn eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-nghyfraith, chwaer, nain a hen nain annwyl iawn, sef y ddiweddar Eirian Williams, Pant y Celyn, Rhostryfan. Diolch am yr holl ymweliadau, cardiau a galwadau ffôn a dderbyniwyd, fe'u gwerthfawrogir yn fawr iawn. Diolch arbennig i'r ymgymerwyr, Iolo Owen a'i gydweithwyr, am y gefnogaeth a'r trefniadau trylwyr ac urddasol, i'r Parchedig Gwenda Richards am ei hymweliadau a'r gwasanaeth arbennig ar ddydd yr angladd. Diolch hefyd am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Eirian, fydd yn cael eu rhannu rhwng Cyfeillion Ysbyty Gwynedd a Chyfeillion Ysgol Rhostryfan.
Keep me informed of updates