JaneWILLIAMSDymuna Gwilym, Sue, Gill a Wendy a theulu y ddiweddar Jane Williams (Ystafell Wnio Ysbyty Gwynedd), Fferm Maes Mawr, Penrhosgarnedd, Bangor ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwraig, mam a nain mor feddylgar a ffrind annwyl. Diolch am y rhoddion hael o £2,000 a dderbyniwyd er cof am Jane tuag at Marie Curie. Diolch arbennig i Dr Rigby a staff Meddygfa Felinheli, Ann Williams a'r Tim Gofal Lliniarol, gofal tymor byr Hosbis Dewi Sant Llandudno, Tim Gofal yn y Cartref Plas Garnedd a Gofal Age Cymru. Diolch enfawr i'r Parchedig Casi Jones, Capel Emaus am ei gwasanaeth personol a theimladwy, ac i'n ffrindiau am fod yn gefn i ni drwy'r cyfnod cyfan. Diolch i John Turner a'i Ferched am y trefniadau gofalus ac i bob person a wnaeth sefyll ar ochr y ffordd i dalu eu teyrnged i Jane. Mae yn golygu cymaint i ni.
Keep me informed of updates