AlunWILLIAMSWILLIAMS - ALUN (Alun Bont) 24 Mawrth, 2008. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o 19 Llwyn Beuno, Bontnewydd, yn 78 mlwydd oed. Priod addfwyn Greta, a thad cariadus Lynne a Michael. Tad-yng-nghyfraith annwyl Hywyn, taid gofalus Ffion a Lois, a brawd hoff Betty a'r teulu. Angladd fore Gwener, 28 Mawrth, 2008. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Siloam M.C., Bontnewydd am 11:00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf. Derbynnir blodau'n ddiolchgar er cof amdano, neu roddion, pe dymunir, tuag at Apel Ty Gobaith Cymru. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. Ffon: 01286 881280.
Keep me informed of updates