IforWILLIAMSWILLIAMS - IFOR GLYN. Mai 24, 2008 yn sydyn ond yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn ei gartref Tyddyn Dolben, Llangernyw yn 77 mlwydd oed. Priod ffyddlon ac annwyl Enid. Tad tyner a gofalus Marian a Brenda a thad yng nghyfraith Alun a Gwynfor. Taid caredig Arwel, Donna a Buddug; Rhys a Llyr, a brawd hoffus y ddiweddar Jennie Myfanwy. Angladd ddydd Mawrth, Mehefin 3ydd. Gwasanaeth yng Nghapel y Cwm, Llangernyw am 2.30 o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent y Garnedd. Blodau teulu yn unig, ond os dymunir, derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar at Ymchwil y Galon trwy law Arwyn C. Roberts (R. W. Roberts a'i Fab) Llys Aled, Dinbych (812935).
Keep me informed of updates