HughWILLIAMSWILLIAMS - HUGH VERNON. Dymuna teulu'r diweddar Hugh Vernon Williams, Lime Street, Trefor a fu fawr ar y 13eg o Chwefror ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o garedigrwydd a chariad a ddanghoswyd tuag atynt yn eu colled enfawr o golli gwr, tad, taid a hen daid caredig ac annwyl. Diolch i'r Canon Idris Thomas am ei eiriau annwyl ac i Mr. Ifan Hughes am ei drefniadau trylwyr a charedig. Diolch arbennig i Reolwyr a Staff Plas Madryn, Morfa Nefyn am fod mor annwyl a charedig tuag at Hugh yn y misoedd diwethaf ac i Staff Ward Aran, Ysbyty Gwynedd am eu gofal arbennig yn ystod y mis diwethaf o fywyd Hugh. Diolch hefyd i'r ddau le am eu caredigrwydd tuag atom ni fel teulu mewn cyfnod a fu'n annodd iawn i ni. Bydd rhoddion er cof am Hugh yn cael eu rhannu rhwng Plas Madryn a Ward Aran. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates