EthelWILLIAMSWILLIAMS - ETHEL (Hanks gynt) Mawrth 21, 2008, yn dawel yng Nghartref Preswyl Foelas, Llanrug, o 3 Ffordd Marchlyn, Caernarfon yn 87 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Griff, mam dyner Pat, Doreen, David, Maldwyn a'r diweddar Eirian, mam yng nghyfraith hoff Haydn, Emrys, Chris a Janice a nain gariadus ei hwyrion a hwyresau a'i gor hwyrion a hwyresau. Angladd ddydd Gwener Mawrth 28, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caernarfon am 2:45 o'r gloch ac yn dilyn yn breifat yn Amlosgfa Bangor am 3:45 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Gronfa Cyfeillion Ysbyty Eryri. Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Ffordd y De, Caernarfon. Ffon (01286) 673072.
Keep me informed of updates