GwynethWILLIAMSWILLIAMS Mrs. Gwyneth Mary Dymuna teulu y diweddar Mrs. Gwyneth Mary Williams, 5 Marine Terrace, Porth Waterloo, Caernarfon, ddatgan eu diolch am bob cydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod eu profedigaeth. Diolch yn arbennig i Ward Padarn, Ysbyty Eryri, a Ward Hebog, Ysbyty Gwynedd, am eu gofal tyner a hefyd gofal arbennig gan Dr. Elwyn Parry a Nyrsus a Staff Meddygfa Penygroes. Diolch i'r Parch. Gwenda Richards am ei charedigrwydd a'i gwasanaeth arbennig ac i Gwyn, Gwilym Jones a'i Fab, yr ymgymerwyr, am y trefniadau trylwyr. Diolch am y llu o gardiau, llythyrau a rhoddion ariannol a throsglwyddwyd £650 i gronfa Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwyneth