Eleanor MayWILLIAMSWILLIAMS - ELEANOR MAY. Dymuna teulu y ddiweddar Eleanor May Williams, gynt o Rhydfadog, Deiniolen ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth, ac am y rhoddion hael tuag at Gronfa Dementia. Carem ddiolch am y gofal arbennig gafodd Eleanor yng Nghartref Plas y Bryn, Bontnewydd. Diolch i'r Parchedig Carol Roberts, ac i Dr. William Munro am eu gwasanaeth yn Eglwys Crist, Llandinorwig, i'r Ymgymerwyr Dylan a Meinir Griffith am eu gofal trylwyr ddydd yr angladd.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Eleanor