EirwynTHOMAS3 Parc Gwyn, Trefechan, Caerfyrddin, gynt o Pistyll Gwion, Ffynnonddrain. Atgofion pen-blwydd melys am dad, tad-cu ac hen dad-cu annwyl iawn ar y 18fed o Ebrill. Hunodd yn dawel yn Ysbyty Glangwili ar y 6ed o Hydref, 2020 yn 92 mlwydd oed. Cynhaliwyd gwasanaeth byr, dan ofal y Parchedig Beti-Wyn James, y tu allan i'w gartref ar ddydd Llun 19eg o Hydref ac fe ddaeth nifer o ffrindiau, cymdogion a theulu estynedig i ddangos eu cefnogaeth a'u cydymdeimlad. Yn dilyn, cynhaliwyd gwasanaeth preifat i'r teulu yn unig yn Amlosgfa Parcgwyn, Arberth. Dymuna'r teulu ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth, i bawb a fu'n gyfrifol am ofal Eirwyn yn ystod ei salwch ac am y cyfraniadau a dderbyniwyd tuag at ICU Ysbyty Glangwili. Byth mewn cof gan y plant a'u teuluoedd xx
Keep me informed of updates