MargaretTHOMASTHOMAS - MARGARET JONES (Megan Harris). Hydref 5ed, 2008. Yn dawel yng Nghartref Plas Newydd, Criccieth, (gynt o Ty Gwyn, Yr Ala, Pwllheli), yn 92 mlwydd oed. Priod y diweddar Tom, mam annwyl Jim a'i briod Wendy, nain arbennig Kay, Neill, Sharron a'r diweddar Nigel, hen nain hoffus Dominic, Jennifer, Luke, Daniel, Adam, Thomas ac Emlyn. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Saesneg, Yr Ala, Pwllheli dydd Mawrth, Hydref 14eg am 10.15 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 12 o'r gloch. Blodau teulu agosaf yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir tuag at Gronfa Ambiwlans Awyr, trwy law G.D. Roberts a'i Fab, Capel Gorffwys, Pwllheli. 01758-701107.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret