MorwenROWLANDS
Yn frawychus o sydyn, oriau mân fore Llun 6 Ebrill, yn ei chartref yng Nghwmifor, bu farw Morwen. Gwraig ofalgar a ffyddlon Alan; mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Aled a Mirela, Llŷr a Cindy; mamgu hoffus a balch Gruffudd, Christoforos, Efa, Nia a Sara Mai. Chwaer a modryb agos a diffuant i Eira a Glynog, Iestyn a Rhian, Cadi a Loti.
Angladd gyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli ar ddydd Sadwrn 25 Ebrill am 1 y prynhawn.
Blodau'r teulu'n unig ond os dymunir derbynnir cyfraniadau er cof tuag at Ffrindiau Ysbyty Llanymddyfri / Llandovery Hospital League of Friends trwy law Cyfarwyddwyr Angladdau IC a SM Davies, Tŷ Britannia, Llanymddyfri, SA20 0DD. Ffôn 01550 720636.
Yn annwyl i'w theulu a'i ffrindiau oll.
Keep me informed of updates