MeiraROWLANDSMawrth 7, 2024
Yn dawel yng Nghartref Willow Hall, Caernarfon a gynt o 17 Rhydfadog, Deiniolen, yn 93 mlwydd oed.
Priod annwyl y diweddar Arthur. Mam gariadus Kevin a Wendy a mam yng nghyfraith Eleanor a Dylan. Nain arbennig Rachel, Gethin, Ffion, Sioned, Harri a’r ddiweddar Kathryn a hen nain Jayden, Logan a Talia. Chwaer annwyl y ddiweddar Bet.
Bydd colled trist i’w theulu a ffrindiau oll.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist Llandinorwig,
Deiniolen, ddydd Mercher, Mawrth 20, 2024 am 1:00 o’r gloch ac i ddilyn yn mynwent Macpelah, Deiniolen.
Derbynnir blodau neu os dymunir derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Cartref Willow Hall Caernarfon.
Ymholiadau – E W Pritchard, 62 Stryd Fawr, Llanberis 01286 870202.
Keep me informed of updates