Morfydd AnnROBERTSMehefin 12, 2025
Hunodd yn dawel yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan. O Foel Helyg, Foel Fawr, Llanrwst yn 80 mlwydd oed.
Gŵraig ffyddlon y diweddar Glyn. Mam falch Dylan ac Elfyn, mam-yng-nghyfraith hoffus Eirian. Nain dyner i Trystan, Osian ag Angharad ac hefyd i Charlotte a Mali. Hen nain annwyl Elea, Awen a Macsen a chwaer i Mair a Menna.
Angladd dydd Mercher Gorffennaf 2, 2025. Yn dilyn gwasanaeth preifat wrth y bedd, bydd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Pandy Tudur am 1.30 y prynhawn.
Derbynir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Morfydd tuag at Coeliac UK.
Unrhyw ymholiadau trwy yr ymgymerwr G. Lloyd Jones, Sgwar Ancaster, Llanrwst Ffôn 01492 640600
Keep me informed of updates
Add a tribute for Morfydd