Mair WynROBERTSDymuna Rhianwen, Cledwyn, Tom Alun a'r teulu ddiolch o galon i bawb am eu caredigrwydd a phob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli mam, mam-yng-nghyfraith, chwaer a nain arbennig iawn. Diolch am y rhoddion hael i gronfa MND, am y gofal amhrisiadwy gan feddygon teulu a staff Meddygfa Waunfawr dros y blynyddoedd, am gymorth a hiwmor genod Gofal Bro a staff Ward Gogarth Ysbyty Gwynedd. Diolch hefyd i Meinir o gwmni Ymgymerwyr Dylan Griffiths, Penisarwaun am ei threfniadau sensitif ac urddasol.
Keep me informed of updates