JaneROBERTSROBERTS - JANE JONES (Jin) Ebrill 28ain 2008. Yn dawel yng Nghartref Plas Isaf, Llandrillo yn Rhos, (gynt o Glan Cymerau, Pwllheli). Annwyl briod y diweddar Roger a mam dyner a gofalus Ann a Eric, nain gariadus Nia, Huw a Gethin a hen nain Hannah Enlli, chwaer hoff Elin a'r diweddar William, Robert a Griffith. Gwasanaeth yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener, Mai 2il am 12:00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond os dymunir fe dderbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gymdeithas Alzheimers. Ymholiadau a rhoddion i T. Conchar a'i Feibion, 4 Woodland Road West, Bae Colwyn. LL29 7DH. Ffon 01492 532206.
Keep me informed of updates