EdwardROBERTSROBERTS - EDWARD (Ned Bronfelen). Ebrill 5ed 2008 yn sydyn yn ei gartref, 10 Waun Dirion, Benllech yn 92 mlwydd oed. Priod hoff y diweddar Ellen Roberts. Tad cariadus i Edward. Tad yng nghyfraith i Elma. Taid a ffrind i Gareth a Joanne; Bethan, Andy a Ieuan. Hen daid i Jamie a Cerys. Bydd Ned yn golled fawr i'w holl deulu a llu o ffrindiau ffyddlon. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Brynteg dydd Sadwrn Ebrill 12fed 2008 am 11eg o'r gloch ac i ddilyn ym Mynwent Soar. Blodau y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig tuag at Gronfa Prydain a Chapel Soar. Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr, Arwel a Ieuan o John Hughes a'i Fab, Amlwch. Tel: 01407 830461.
Keep me informed of updates