ThomasROBERTSROBERTS - THOMAS DRYHURST (T.D, Bardd a Chynghorydd) Ebrill 11, 2008, yn dawel yng Nghartref Cerrig-yr-Afon, Y Felinheli, o Penrhyn, Llangefni yn 98 mlwydd oed. Priod cariadus y ddiweddar Megan a thad gofalus Hari a John, tad-yng-nghyfraith addfwyn Sheila a Beryl. Taid caredig i Alan, Helen, Nia a Llinos a hen daid hoffus i Hari, Thomas a Morgan. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener Ebrill 18 am 2.15 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond fe dderbynnir yn ddiolchgar roddion er cof tuag at Feddygfa Coed y Glyn, Llangefni trwy law yr Ymgymerwyr Gwilym Jones a'i Fab, Ffordd y De, Caernarfon LL55 2HP. Ffon: (01286) 673072.
Keep me informed of updates