Elizabeth Hannah DoreenREESYn dawel Ddydd Mawrth 12fed o Ionawr 2021 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, Doreen, Meysydd, Felindre, Llandysul. Priod ffyddlon y diweddar Eurig, mam dyner Dylan, Mansel, Ann, Marc a Geraint, mam yng nghyfraith hoffus Eleanor, Ian, Debbie a Sarah, mam-gu a hen fam-gu gariadus, chwaer a chwaer yng nghyfraith annwyl. Gwasanaeth breifat yn unol a'r canllawiau presennol Ddydd Sadwrn, 23ain o Ionawr 2021 yng Nghapel Soar, Cwmpengraig am 12.00 o'r gloch. Bydd yr angladd yn cychwyn o'i chartref am 11.30 o'r gloch. Byddai'n gysur i'r teulu pe dymunai cyfeillion a chymdogion Doreen, ddod allan i dalu'r deyrnged olaf gan ddilyn canllawiau pellter presennol. Dim blodau, rhoddion os dymunir tuag at Tir Dewi a Ward Picton Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin trwy law Wyn Williams, Trefnwr Angladdau, Rhydfoyr Uchaf, Felindre, Llandysul, SA445JE Ffôn 01559 370412.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth