Rhian WynOWENRhagfyr 26, 2025 Hunodd yn dawel yn ei chartref Fferm Cefnartho, Clynnog-Fawr yng ngofal tyner ei theulu yn 79 mlwydd oed. Gynt o Nantcyll Uchaf, Pantglas a Cefnwerthyd, Bontnewydd. Priod ffyddlon Rheon; mam amhrisiadwy Celt a'i briod Zena, Lliwen a'i phriod Tim, Manon a'i chymar David; nain gariadus a ffrind annwyl Anest a Moi; chwaer dyner Hefin, Eirlys a'r diweddar Edwyn ac Owi. Chwaer yng nghyfraith hwylus Heulwen, Nesta, Robin, Margaret, Eleri a Myrddin, Catrin a Glyn, Bleddyn a Glynwen. Modryb ac hen fodryb meddylgar, triw a balch. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor, dydd Iau 29ain Ionawr 2026 am 1:30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Rhian tuag at Elusen Nyrsys Cymunedol Dwyfor Ganol trwy law yr ymgymerwr (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion).
Ifan Hughes
Ymgymerwr Angladdau
Ceiri Garage
Llanaelhaearn.
Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates