NanOWEN11 Tachwedd, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yng nghartref Marbryn, Caernarfon ac o Berwyn, Bethel, Caernarfon, yn 88 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon Tom, mam ofalus Carys, a mam-yng-nghyfraith Ted. Nain annwyl Sioned, Tomos a Dylan, hen nain Leo a Finley, Nan i Billy a Lottie, a chwaer Gwyn a'r diweddar Hari. Angladd brynhawn Mawrth, 9 Rhagfyr, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Nan tuag at Meddygfa Hafan Iechyd, Caernarfon a Ward Moelwyn, Ysbyty Gwynedd, Bangor. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Penygroes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates