GeraldOWEN8fed Fai 2022. Yn dawel yn ei gartref 5 Station Road, Bethesda yn 91 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Glenys. Tad gofalus Carol a Barry. Tad yng nghyfraith Dafydd a taid arbennig Emma, Mathew, Sarah, Nicola a Melonie, a hen daid annwyl. Brawd hoff y diweddar Eileen, ewythr hoffus Gail. Gwasanaeth yn Eglwys Crist Glanogwen dydd Mercher 18fed Fai am 1 o'r gloch a rhoddier i orffwys ym Mynwent Coetmor. Ymholiadau i Stephen Jones Trefnwr Angladdau Cyf, Pen y Bryn, Bethesda. 01248 600455.
Keep me informed of updates