Laura JaneOWENOWEN - LAURA JANE, . (Lowri Clenennau) 29ain Gorffennaf 2020. Yn dawel yn ei chartref, 'Cartref', Pentrefelin, Cricieth, yng nghwmni ei theulu yn 92 mlwydd oed. Mam arbennig Linda, y diweddar David, Aled, Sian, Tom ac Elin, a mam-yng-nghyfraith driw i Simon, Amanda, Robin, Nia ac Emyr. Nain hoffus i Siafon; Ffion, Eleri, Enid a Haf; Lowri, Iwan ac Owain; Iolo, Euron, Fflur a Caio; Gwenno, Elis, Eurgain a Heledd, a hen-nain falch iawn i'w gor-wyrion. Gwasanaeth hollol breifat i'r teulu agosaf yn unig, yn ôl ei dymuniad, ddydd Sadwrn 8fed Awst 2020 am 1.00 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym mynwent Bethel, Golan. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion er cof am Lowri tuag at waith gofalwyr yn y cartref a nyrsus cymunedol a fu mor dyner eu gofal bob amser. Ymholiadau a rhoddion drwy law yr ymgymerwyr, Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Cricieth 01766 522854.
Keep me informed of updates