JonesMALDWYNJONES - Dymuna Nansi, Gwyn ac Eleri a theulu y ddiweddar Maldwyn Jones, Bryn Conwy, Llanrwst ddiolch yn ddiffuant i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar o golli priod a thad mor annwyl. Diolch am y llu cardiau, galwadau ffon a phob ymweliad. Diolch i'r meddygon a staff Meddygfa Llanrwst ac i staff Ward Ogwen, Ysbyty Gwynedd am eu gofal. Diolch hefyd i'r Parch. Gerwyn Roberts ac R O Jones am eu gwasanaeth ddiwrnod yr angladd a Mrs Mair Williams am ei gwasanaeth wrth yr organ a phawb arall a gymerodd ran ar ddiwrnod yr angladd. Gwerthfawrogir y rhoddion hael a dderbyniwyd tuag at Ty Gobaith a'r Nyrsys Lleol yn y Gymuned, er cof am Maldwyn. Llawer o ddiolch hefyd i'r ymgymerwr D. Gwynfor Griffiths, Trefriw am ei gymorth, caredigrwydd a'u drefniadau proffesiynol. Diolch yn fawr iawn i bawb.
Keep me informed of updates