Gwenda MyfanwyLLOYDCYN-ATHRAWES FEITHRIN YN YSGOL GYMRAEG CASTELL-NEDD
Tristwch mawr i'r teulu yw rhoi gwybod am farwolaeth ddisymwth Gwenda Myfanwy Lloyd yn 80 oed ar 1af Chwefror 2025.
Bu'n fawr iawn ei gofal dros holl aelodau'r teulu gydol ei hoes, yn gefn i'w gŵr Malcolm, yn fam ac yn fam-yng-nghyfraith annwyl iawn i Geraint, Hywel, Magali a Helen, yn fam-gu gariadus a doniol i Nia, Sara, Guilhem, Aelis a Macsen, ac yn hen fam-gu hoffus i Sofia. Er yr hiraeth dwys, diolcha'r teulu am bob atgof melys amdani.
Cynhelir yr angladd yng Nghapel Saron, y Creunant ddydd Iau 20 Chwefror am 10.30yb, a'r claddu yn dilyn ym Mynwent Tŷ'n-y-Coed, Abercraf am 12.00yp. * * * * *
FORMER NURSERY TEACHER AT YSGOL GYMRAEG CASTELL-NEDD
The family are very saddened to announce the sudden passing of Gwenda Myfanwy Lloyd at the age of 80 on 1st February 2025.
She cared deeply for all members of the family throughout her life, being a solid support to her husband Malcolm, a much-loved mother and mother-in-law to Geraint, Hywel, Magali and Helen, a loving and funny grandmother to Nia, Sara, Guilhem, Aelis and Macsen, and a wonderful great-grandmother to Sofia. Despite missing her greatly, the family are thankful for every fond memory of her.
Funeral to be held in Saron Chapel, Crynant on Thursday 20th February at 10.30am., followed by burial at 12.00pm in Ty'n-y-Coed cemetery, Abercraf. c/o Les Davies Independent Funeral Directors Neath Funeral Home, Main Road, Cadoxton, Neath, SA10 8AP. Tel 01639 642945.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwenda