David Griffith JeffreyLEWISAr brynhawn Gwener, 30ain Ionawr, 2026 yn Ysbyty Treforys bu farw Jeff Lewis, Maesyrhaf, Cenarth yn 81 oed.
Priod cariadus a ffyddlon Rhiannon, brawd-yng-nghyfraith gofalus Oswyn a ffrind cymwynasgar. Bydd colled fawr ar ei ôl.
Angladd gyhoeddus yng Nghapel Cenarth ddydd Sadwrn, 21ain Chwefror am 12.30 o'r gloch. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel Bryngwyn.
Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr Angladdau Alun M. Esau, Soar, Sarnau. Ffôn: 01239 654240.
Keep me informed of updates