HughieJONES26ain o Ionawr 2026. Hunodd yn dawel yng Nghartref Bryn Awelon, Criccieth a gynt o Bŷs Coch, Llanbedrog yn 91 mlwydd oed. Gŵr y diweddar Margaret. Mab y diweddar Ellis ac Elizabeth. Brawd hoffus y diweddar Laura, Megan, Gruffudd John, Ellis Owen, Mair, Glyn, Gwyneth a Doris. Tad gofalus Stephen a'i ddiweddar wraig Kathy. Taid balch Michaela, Haley, Ryan, Ellie a Macey. Bydd yn golled fawr i'w deulu a'i lu ffrindiau.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Bethel, Penrhos, Pwllheli dydd Sadwrn 14eg o Chwefror am 10 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent y Capel.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gyfeillion Ysbyty Bryn Beryl a Criw Bâd Achub Porthdinllaen drwy law'r ymgymerwr (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion).
Ifan Hughes
Ymgymerwr Angladdau
Ceiri Garage
Llanaelhaearn
Ffôn: 01758 750238
Keep me informed of updates