Robert MorrisJONESHoffai Eurwen, Sharon a teulu y diweddar Robert Morris Jones Dwyryd, 1 Y Garnedd, Llanfairpwll, ddiolch yn ddiffuant iawn i berthnasau, ffrindiau a chymdogion am bob cymorth a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwr, tad a thaid annwyl. Diolch am bob ymweliad, galwad ffôn a'r cardiau niferys dderbynwyd.
Diolch am y rhoddion hael dderbynwyd tuag at Ward Cybi, Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi. Bu'r oll yn gymorth mawr i ni fel teulu.
Diolch i'r Parchedig Dewi Tudur Lewis am ei wasanaeth dydd yr angladd, i Mrs Gwenan Davies-Jones am ei gwasanaeth wrth yr organ. Diolch hefyd i Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali am eu trefniadau trylwyr.
Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates