CarysJONES26ain Tachwedd 2025. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o Prysor, Botwnnog yn 69 mlwydd oed. Priod cariadus a ffrind gorau Allan, mam garedig Donna ac Adam, mam yng nghyfraith hoffus Adam a Billie, nain hwyliog Morgan, Hari a Cadi Jên, chwaer annwyl Heulwen ac Aled, chwaer yng nghyfraith, modryb a chyfneither hoffus a ffrind i lawer.
Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Iau, 18fed Rhagfyr am 2.30 o'r gloch. Pawb i wisgo yn lliwgar os dymunir.
Blodau teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Wardiau Hebog ac Ogwen Ysbyty Gwynedd trwy law'r ymgymerwr. (sieciau yn daladwy i Ifan Hughes Cyfrif Rhoddion).
*************** 26th November 2025. Peacefully at Ysbyty Gwynedd, Bangor and of Prysor, Botwnnog aged 69 years. Beloved wife and best friend to Allan, loving mother to Donna and Adam, fond mother-in-law to Adam and Billie, fun-loving Nain to Morgan, Hari and Cadi Jên, fond sister to Heulwen and Aled, a dear sister-in-law, aunt and cousin and a friend to many.
Public service at Bangor Crematorium on Thursday, 18th December at 2.30pm. Everyone to wear bright colours if desired.
Family flowers only, but donations in memory will be gratefully received towards Hebog and Ogwen Wards Ysbyty Gwynedd per the funeral director. (cheques payable to Ifan Hughes Donations Account) Ifan Hughes Ymgymerwr Angladdau / Funeral Director Ceiri Garage Llanaelhaearn Ffôn / Tel: 01758 750238
Keep me informed of updates