Helen MaiJONESTachwedd 10fed 2025, yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yng nghwmni ei theulu tyner, yn 86 oed o Tryweryn, Pennant, Llangefni. Mam annwyl David, Gareth, Sara a'r ddiweddar Eirian, Mam yng nghyfraith Diane, Elena ac Arwel a Nain falch Rheinallt, Bedwyr, Anest, Elliw, Llŷr, Iolo ac Ynyr. Gwelir ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd ddydd Sadwrn Tachwedd 29ain, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Cyngar Sant, Llangefni am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys ym mynwent Newydd Llangristiolus.
Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion, os dymunir yn ddiolchgar i'w rhannu rhwng Ward Peblig, Ysbyty Eryri a Ward Prysor, Ysbyty Gwynedd lle cafodd ofal arbennig (sieciau yn daladwy i cyfrif rhoddion Melvin Rowlands os gwelwch yn dda) drwy law'r ymgymerwr Melvin Rowlands Capel Gorffwys Minafon, Ffordd Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7FE. Ffôn: 01248 723111
Keep me informed of updates