Gwladys DerwenaJONESDymuna Geraint, Ann, Alwena, Gwyn a'u teuluoedd fynegi eu diolch mwyaf diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd ganddynt yn eu colled a'u profedigaeth o golli un a oedd mor annwyl yn eu golwg. Diolch am yr holl gardiau, negeseuon, galwadau ffôn ac ymweliadau a fu'n gysur ac yn gynhaliaeth iddynt yn eu galar. Diolch yn arbennig am y gwasanaeth o ddiolchgarwch i ddathlu bywyd Derwena yng Nghapel Seilo, Caernarfon dan arweiniad y Parch. Anna Jane Evans ac i Geraint Clwyd Jones am ei wasanaeth wrth yr organ. Gwerthfawrogir yn fawr y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof amdani tuag at Eglwys Seilo, Cartref Marbryn a Chymorth Cristnogol. Diolch hefyd i gwmni Roberts & Owen, Pen-y-groes am eu trefniadau trylwyr, gofalus a phroffesiynol.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gwladys