Jane MurielJONESEbrill 30, 2023 Hunodd yn dawel yn ei chartref 35 Bro Rhos, Bethel, Caernarfon, yng ngofal tyner ei theulu ar ôl cyfnod byr o salwch yn 88 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon ac arbennig Robat; mam a mam yng nghyfraith amhrisiadwy Sheila ac Alun, Gwenno ac Aled, Emlyn a Delyth. Nain garedig Huw, Dewi, Sion, Iwan, Catrin, Dafydd, Tomos ac Ifan; hen nain balch i Lillie, Osian a Hugo; chwaer, chwaer yng nghyfraith a modryb annwyl. Bydd chwith mawr ar ei hôl. Angladd ddydd Mercher, Mai 17, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei bywyd yn Eglwys Sant Peris, Nant Peris am 10.30 y bore gan ddilyn i'r teulu agosaf yn unig yn Amlosgfa Bangor. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at elusennau lleol. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates