Glenys WynJONESIonawr 22, 2023 Yn dawel yng nghwmni ei theulu ac wedi gofal caredig yng Nghartref Gofal Cerrig yr Afon, Felinheli yn 92 mlwydd oed, gynt o Penygroes, yn enedigol o Pant y Cafn, Llanberis. Gweddw y diweddar Edwin Jones a chyn wraig Hugh Eric Owen; mam annwyl Michael, Rhian, Carys a Delwyn; mam-yng-nghyfraith, nain a hen-nain garedig. Colled drist i'w theulu oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Mawrth, Chwefror 14 am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Ymchwil Alzheimer's DU / Alzheimer's Research UK. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates