Edith MarianJONESIonawr 19eg, 2023. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 85 mlwydd oed o Glan y Mor, Caernarfon (gynt o Rhyd Menai, Ffordd Bangor). Gwraig annwyl y diweddar John Wynne, mam a mam yng nghyfraith arbennig Eleanor ac Alun, Nain falch Gwennan a'i phriod Owen, Gwyndaf a'i briod Glesni, Hen 'Naini' Dafydd a Guto. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Mawrth, 14 Chwefror, 2023 am 10 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ambiwlans Awyr. Ymholiadau pellach i Gwilym Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Caernarfon, Ffon (01286) 673072.
Keep me informed of updates