Mair WynneJONESO dan ofal tyner Ysbyty Bryn Beryl ar y 13eg o Ebrill 2022, yn 99 oed, gynt o Afallon, Cricieth a Plas y Don. Gwraig annwyl y diweddar Robert Morris Jones; Mam a mam yng nghyfraith amrhisiadwy Sian, Elfyn, Arwyn a Pauline; nain arbennig Einir, Owain, Glenn a Ryan, hefyd Darren a Delyth; hen nain falch Lydia, Elsi, Elin a Cian. Angladd cyhoeddus yng Nghapel y Traeth, Cricieth, am 1 o'r gloch dydd Llun Ebrill 25ain ac i ddilyn ym Mynwent Newydd Llanystumdwy. Blodau'r teulu agos yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at "Tŷ Gobaith Conwy" trwy law yr ymgymerwyr Henry Jones Cyf, Rhes Capel, Cricieth (01766) 522854.
Keep me informed of updates