CaradogJONESJONES - CARADOG, 1 Tachwedd 2019. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd o Taree, Lon Traeth Penrhos, Caergybi yn 95 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar Mona, tad tyner Gwenda a'r diweddar Merfyn, tad yng nghyfraith Richard ac Eva, taid hoff Bryn a Branwen, a hen daid Willow Eleri a Megan Afon. Gwelir ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau oll. Angladd dydd Mercher, 13 Tachwedd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caergeiliog am 1.30 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor. Dim blodau, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ty Gobaith trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffon (01407) 740 940.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Caradog