Anne MyraJONESJONES - ANNE MYRA. Ar Dachwedd 1af yn dawel yng nghwmni ei phlant yn Ysbyty Bryn Beryl ac o Hafod, 6 Lon Ceredigion, Pwllheli. Gwraig gariadus y diweddar Idwal, mam annwyl Gwynfor, Megan a Rhian, nain a hen nain balch. Angladd cyhoeddus yng Nghapel Penlan, Pwllheli am 11.30 ddydd Mercher, Tachwedd 11eg 2015 ac yna i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gyfeillion Ysbyty Bryn Beryl trwy law'r ymgymerwr Ifan Hughes, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffon 01758 750238.
Keep me informed of updates