EmyrJONESJONES - EMYR (Bara Brith). Dymuna Eirian a theulu y diweddar Emyr, 1 Tafarn-Y-Fedw, Llanrwst, ddiolch i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli priod, mab, tad, brawd a thaid arbennig iawn. Diolch am yr holl gardiau, galwadau ffon, a phob ymweliad. Carwn ddiolch i'r Parch Carol Evans a'r organyddes Mrs Eirwen Roberts am eu gwasanaeth ddydd yr angladd. Diolchwn i bawb am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Emyr tuag at meddygfa Betws-Y-Coed, ac i'r ymgymerwyr G. Lloyd Jones am eu trefniadau urddasol.
Keep me informed of updates