AwenaJONESJONES - AWENA. 27 Medi, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, 44 Y Glyn, Caernarfon, yn 55 mlwydd oed. Cymar addfwyn Terry, mam amhrisiadwy Angharad, merch arbennig Beryl a'r diweddar Sel, a chwaer annwyl Davina a'i phriod, Barry. Bydd colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd brynhawn Mawrth, 6 Hydref 2015. Gwasanaeth cyhoeddus a chyflwyniant yn Amlosgfa Bangor am 1.30 o'r gloch. Dim blodau, yn ôl ei dymuniad, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Macmillan Cancer Support. Yn ogystal, gofynnir yn garedig i alarwyr beidio a gwisgo dillad du, os gwelwch yn dda. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. (01286) 678658
Keep me informed of updates