GwendaJONESJONES - Dymuna Gwenda, Catherine a theulu y diweddar LYDIA JONES, Llanrwst, ddiolch yn ddiffuant i berthnasau, ffrindiau a chymdogion am yr holl gydymdeimlad a dderbyniwyd yn ystod eu profedigaeth ddiweddar. Diolch arbennig i staff Cartref y Borth, Llanrwst am y gofal caredig ym mlynyddoedd diwethaf ei bywyd; i'r Parch. Gerwyn Roberts am y gwasanaeth teimladwy, i Buddug Jones yr organyddes ac am y rhoddion hael o £500.00 er cof am Lydia. Yn olaf, diolch i G. Lloyd Jones am y trefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates