BetJONESJONES - Dymuna Bet, Elfyn, Awen a theulu'r diweddar Huw Pierce, Arfryn, Y Felinheli, ddiolch o galon i gymdogion a ffrindiau am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddiweddar o golli priod cariadus, tad a thad yng nghyfraith annwyl, a thaid arbennig iawn. Diolch am y llu o gardiau, ymweliadau a galwadau ffon, diolch i'r Parchedigion Eric Jones; Bryn Williams a Huw Gwynfa Roberts am y gwasanaeth ddydd yr angladd a'r deyrnged haeddiannol gan John Edward Williams ac i'r organydd Wyn Williams. Gwerthfawrogir y rhoddion hael iawn o £1,038 a dderbyniwyd tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru yn ol ei ddymuniad. Diolch i'r ymgymerwr Mr Dylan Griffith am ei drefniadau trylwyr a diolch hefyd i Feddygfa'r Felinheli am eu gofal dros y blynyddoedd.
Keep me informed of updates