LilyJONESJONES - LILY EIRWEN (Anti Lil). Hunodd yn yr Iesu fore Sul 13 Ebrill, 2008 yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, Lily o 4 Maesyfelin, Penrhycoch, Aberystwyth yn 79 mlwydd oed. Priod ffyddlon John Ifor Jones (cyn Bosfeistr Caernarfon); mam gariadus Owain a Gethin; mam yng nghyfraith Carolyn a Jo a nain werthfawr Aled, Rhiannon, Simon, Hannah ac Eifion. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seion, Baker Street, Aberystwyth ddydd Sadwrn 19 Ebrill, 2008 am 12.00 o'r gloch ac i ddilyn yn Mynwent y Dref, Aberystwyth. Blodau'r teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at "Ambiwlans Awyr Cymru" trwy law Selwyn Evans, D J Evans Cyfarwyddwyr Angladdau, Kairali, Penrhyncoch, Aberystwyth SY23 3EQ. Ffon: 01970 820249.
Keep me informed of updates