CarysJONES-EVANS5ed Ionawr 2024. Diwrnod prudd iawn i deulu Porthoer, Pwllheli pan fu farw Carys yng nghwmni cariadus ei hanwyliad yn Ysbyty Gwynedd. Priod ffyddlon ac amhrisiadwy Cyril, mam gariadus i Dylan, Bethan, Iwan a'i briod Iola, Gwennan a'i phriod Daniel, a Rhodri. Cyfaill triw i Francesca cymar Dylan, a Kathleen cymar Rhodri. Nain edmygus i Manon a Gareth, Harri a Dafydd, Laura, Cari, ac Erin, a hen-nain i Jaco Llewelyn. Bydd bwlch anferth ac anodd i'w lenwi ar yr aelwyd ar ei hôl. Hiraeth poenus gennym oll o'i cholli.
Angladd i gymeryd lle ddydd Mercher, Ionawr 17eg. Gwasaneth cyhoeddus yng Nghapel Penlan Pwllheli am 11.00 y bore, dan arweiniad y Parchedig Glenys Jones, ac fe'i rhoddir i orffwys ym mynwent Denio gyda gweddill o'i theulu. Hedd perffaith Hedd. Carys' funeral will take place on Wednesday January 17th with a public service at Penlan Chapel Pwllheli at 11.00 a.m. followed by interment at Denio cemetery where the rest of her family have been laid to rest. Peace perfect peace.
Os y dymunwch gyfrannu er cof rhennir y rhoddion rhwng Apêl Ambiwlans Awyr Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon. Donations in rememberance will be shared between The Wales Air Ambulance Appeal and The British Heart Foundation. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates