GladysHUGHESDymuna Caren, Brian, Arwel a theulu'r ddiweddar Gladys Hughes o Adwy'r Eifl, Rhostrehwfa ddiolch i bawb am bob caredigrwydd a chydymdeimlad tuag atynt yn eu profedigaeth. Bu pob gair a gweithred yn gysur a chymorth iddynt yn eu galar. Diolch am y nifer helaeth o gardiau a galwadau ffôn.
Diolch i'r Parchedigion C.J. Prew, R.O. Jones, J. M. Job a Hugh Pritchard am gynnal gwasanaeth bythgofiadwy ac i Mr Llifon Jones am ei wasanaeth wrth yr organ.
Diolch am y rhoddion hael o £1,800 i'w rhannu rhwng Gwasanaeth Gynecoleg a Ward Ffrancon Ysbyty Gwynedd.
Diolch arbennig i'r ymgymerwr Melvin Rowlands a'i staff am eu gwasanaeth urddasol a gofalgar. Diolch i bawb.
Keep me informed of updates