Owen GlynHUGHES19 Tachwedd, 2023. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 19 Stryd Eleanor, Twthill, Caernarfon yn 90 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Avril, a thad cariadus David a Richard; tad-yng-nghyfraith gofalus Laura, a thaid balch Huw, Nel, Owen, Cate, Meg a Sarah. Ffrind ffyddlon i'w holl gymdogion o fewn cymuned pentrefol Twthill, Caernarfon, a chyfaill triw i Seindorf Arian Llanrug. Angladd fore Gwener, 1 Rhagfyr, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 10.00 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Gymdeithas Strôc Cymru (Stroke Association Wales). Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates