Thomas CharlesHUGHES5 Ionawr, 2023. Yn sydyn yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 50 Maes Barcer, Caernarfon, yn 86 mlwydd oed. Mab annwyl y diweddar William Charles a Dilys May Hughes, brawd Winnie, Liz, Dafydd a'u teuluoedd a ffrind cywir a thriw i lawer. Angladd fore Iau, 26 Ionawr, 2023. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caernarfon am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Llanbeblig. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01287 678658.
Keep me informed of updates