John WilliamHUGHESIonawr 12, 2023 Yn dawel yng nghwmni ei deulu yng Nghartref Gofal Marbryn, Caernarfon yn 92 mlwydd oed, gynt o Digbeth Terrace, Bontnewydd. Priod annwyl y ddiweddar Menna; tad a thad-yng-nghyfraith Elsbeth a Sion, Anwen ac Alwyn; taid Iwan a Manon, Sion a Sacha; hen daid Elin, Enlli, Jac, Eleias ac Ena; brawd Elwyn a'r ddiweddar Mair ac Eunice. Angladd ddydd Mawrth, Ionawr 24, 2023. Gwasanaeth preifat ar yr aelwyd gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Carmel oddeutu 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates